Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 7:4-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. oherwydd fe wnânt i'th blant droi oddi wrthyf ac addoli duwiau eraill, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig wrthyt ac yn dy ddifa ar unwaith.

5. Ond fel hyn yr ydych i wneud iddynt: tynnu i lawr eu hallorau, dinistrio eu colofnau, a malurio eu pyst Asera a llosgi eu delwau yn y tân.

6. Yr ydych chwi yn bobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw. Y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi eich dewis o blith yr holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear, i fod yn bobl arbennig iddo ef.

7. Nid am eich bod yn fwy niferus na'r holl bobloedd yr hoffodd yr ARGLWYDD chwi a'ch dewis; yn wir chwi oedd y lleiaf o'r holl bobloedd.

8. Ond am fod yr ARGLWYDD yn eich caru ac yn cadw'r addewid a dyngodd i'ch hynafiaid, daeth â chwi allan â llaw gadarn a'ch gwaredu o dŷ caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft.

9. Felly deallwch mai'r ARGLWYDD eich Duw sydd Dduw; y mae'n Dduw ffyddlon, yn cadw cyfamod a ffyddlondeb hyd fil o genedlaethau gyda'r rhai sy'n ei garu ac yn cadw ei orchmynion,

10. ond y mae'n talu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu trwy eu difa; yn wir nid yw'n oedi i dalu'n ôl i'r rhai sy'n ei gasáu.

11. Yr ydych i gadw'r gorchmynion, y deddfau a'r cyfreithiau yr wyf fi heddiw yn gorchymyn i chwi eu cadw.

12. Os byddwch yn gwrando ar y cyfreithiau hyn ac yn gofalu eu cadw, yna bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cadw'r cyfamod a'r ffyddlondeb a dyngodd i'ch hynafiaid.

13. Bydd yn eich caru, yn eich bendithio ac yn gwneud ichwi gynyddu; bydd hefyd yn bendithio'ch plant a chynnyrch eich tir, eich ŷd, eich gwin a'ch olew, ac epil eich gwartheg a'ch praidd yn y tir y tyngodd i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi ichwi.

14. Cewch eich bendithio yn fwy na'r holl bobloedd; ni fydd yr un ohonoch chwi, yn wryw na benyw, yn anffrwythlon, na'r un o'ch anifeiliaid.

15. Fe dry'r ARGLWYDD bob clefyd oddi wrthych, ac ni fydd yn dwyn arnoch chwi yr un o'r heintiau difrifol a brofasoch yn yr Aifft, ond yn eu gosod ar yr holl rai sy'n eich casáu.

16. Yr ydych i ddifa'r holl bobloedd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chwi; nid ydych i dosturio wrthynt nac addoli eu duwiau, oherwydd byddai hynny yn fagl ichwi.

17. Hwyrach y byddwch yn dweud ynoch eich hunain, “Y mae'r cenhedloedd hyn yn fwy niferus na ni; sut felly y gallwn eu gyrru allan?”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 7