Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 7:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Hwyrach y byddwch yn dweud ynoch eich hunain, “Y mae'r cenhedloedd hyn yn fwy niferus na ni; sut felly y gallwn eu gyrru allan?”

18. Peidiwch â'u hofni; daliwch i gofio'r hyn a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i Pharo a'r Aifft i gyd.

19. Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain y treialon mawr, yr arwyddion a'r rhyfeddodau, ac fel y daeth yr ARGLWYDD eich Duw â chwi allan â llaw gadarn a braich estynedig; felly y gwna'r ARGLWYDD eich Duw i'r holl bobloedd yr ydych yn eu hofni.

20. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw hefyd yn anfon cacwn i'w plith, nes difa pob un fydd yn weddill neu yn cuddio oddi wrthych.

21. Peidiwch ag arswydo o'u hachos, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw, y Duw mawr ac ofnadwy, gyda chwi.

22. Fe fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gyrru allan y cenhedloedd hyn o'ch blaenau fesul ychydig; ni fyddwch yn eu difa ar unwaith, rhag i'r anifeiliaid gwyllt fynd yn rhy niferus ichwi.

23. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eu darostwng o'ch blaenau, ac yn dwyn arnynt ddryswch mawr nes eu dinistrio.

24. Bydd yn rhoi eu brenhinoedd yn eich llaw, a byddwch yn dileu eu henwau o dan y nefoedd; ni all unrhyw un eich gwrthsefyll nes i chwi eu dinistrio.

25. Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 7