7. Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi.
8. Yr wyt i'w rhwymo yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.
9. Ysgrifenna hwy ar byst dy dŷ ac ar dy byrth.
10. Yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad y tyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iti, gwlad o ddinasoedd mawr a theg nad adeiladwyd mohonynt gennyt,
11. hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni,
12. gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.
13. Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu a thyngu dy lw yn ei enw.
14. Paid â dilyn duwiau eraill o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch,
15. oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw sydd gyda thi yn Dduw eiddigus, a bydd ei ddig yn ennyn tuag atat ac yn dy ddifa oddi ar wyneb y ddaear.
16. Peidiwch â gosod yr ARGLWYDD eich Duw ar ei brawf, fel y gwnaethoch yn Massa.
17. Gofalwch gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, ei dystiolaethau a'r deddfau a orchmynnodd ichwi.