Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 6:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Gwrando, O Israel: Y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD.

5. Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth.

6. Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon.

7. Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi.

8. Yr wyt i'w rhwymo yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.

9. Ysgrifenna hwy ar byst dy dŷ ac ar dy byrth.

10. Yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad y tyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iti, gwlad o ddinasoedd mawr a theg nad adeiladwyd mohonynt gennyt,

11. hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni,

12. gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 6