Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 6:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Pan fydd dy blentyn yn gofyn iti yn y dyfodol, “Beth yw ystyr y tystiolaethau, y deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw ichwi?”,

21. yna dywed wrtho, “Yr oeddem ni yn gaethion i Pharo yn yr Aifft, a daeth yr ARGLWYDD â ni allan oddi yno â llaw gadarn,

22. ac yn ein gŵydd dangosodd arwyddion a rhyfeddodau mawr ac arswydus i'r Eifftiaid a Pharo a'i holl dŷ.

23. Daeth â ni allan oddi yno er mwyn ein harwain i'r wlad y tyngodd i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni.

24. A gorchmynnodd yr ARGLWYDD inni gadw'r holl ddeddfau hyn er mwyn inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, ac iddi fod yn dda arnom bob amser, ac inni gael ein cadw'n fyw, fel yr ydym heddiw.

25. A bydd yn gyfiawnder inni os gofalwn gadw'r holl orchmynion hyn gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, fel y gorchmynnodd ef inni.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 6