Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 6:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni,

12. gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.

13. Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu a thyngu dy lw yn ei enw.

14. Paid â dilyn duwiau eraill o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch,

15. oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw sydd gyda thi yn Dduw eiddigus, a bydd ei ddig yn ennyn tuag atat ac yn dy ddifa oddi ar wyneb y ddaear.

16. Peidiwch â gosod yr ARGLWYDD eich Duw ar ei brawf, fel y gwnaethoch yn Massa.

17. Gofalwch gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, ei dystiolaethau a'r deddfau a orchmynnodd ichwi.

18. Gwna'r hyn sydd uniawn a da yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n mynd i feddiannu'r wlad dda y tyngodd yr ARGLWYDD y byddai'n ei rhoi i'th hynafiaid

19. trwy yrru allan dy holl elynion o'th flaen, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.

20. Pan fydd dy blentyn yn gofyn iti yn y dyfodol, “Beth yw ystyr y tystiolaethau, y deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw ichwi?”,

21. yna dywed wrtho, “Yr oeddem ni yn gaethion i Pharo yn yr Aifft, a daeth yr ARGLWYDD â ni allan oddi yno â llaw gadarn,

22. ac yn ein gŵydd dangosodd arwyddion a rhyfeddodau mawr ac arswydus i'r Eifftiaid a Pharo a'i holl dŷ.

23. Daeth â ni allan oddi yno er mwyn ein harwain i'r wlad y tyngodd i'n hynafiaid y byddai'n ei rhoi inni.

24. A gorchmynnodd yr ARGLWYDD inni gadw'r holl ddeddfau hyn er mwyn inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, ac iddi fod yn dda arnom bob amser, ac inni gael ein cadw'n fyw, fel yr ydym heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 6