Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 6:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad y tyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iti, gwlad o ddinasoedd mawr a theg nad adeiladwyd mohonynt gennyt,

11. hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni,

12. gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.

13. Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu a thyngu dy lw yn ei enw.

14. Paid â dilyn duwiau eraill o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch,

15. oherwydd y mae'r ARGLWYDD dy Dduw sydd gyda thi yn Dduw eiddigus, a bydd ei ddig yn ennyn tuag atat ac yn dy ddifa oddi ar wyneb y ddaear.

16. Peidiwch â gosod yr ARGLWYDD eich Duw ar ei brawf, fel y gwnaethoch yn Massa.

17. Gofalwch gadw gorchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, ei dystiolaethau a'r deddfau a orchmynnodd ichwi.

18. Gwna'r hyn sydd uniawn a da yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n mynd i feddiannu'r wlad dda y tyngodd yr ARGLWYDD y byddai'n ei rhoi i'th hynafiaid

19. trwy yrru allan dy holl elynion o'th flaen, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.

20. Pan fydd dy blentyn yn gofyn iti yn y dyfodol, “Beth yw ystyr y tystiolaethau, y deddfau a'r cyfreithiau a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw ichwi?”,

21. yna dywed wrtho, “Yr oeddem ni yn gaethion i Pharo yn yr Aifft, a daeth yr ARGLWYDD â ni allan oddi yno â llaw gadarn,

22. ac yn ein gŵydd dangosodd arwyddion a rhyfeddodau mawr ac arswydus i'r Eifftiaid a Pharo a'i holl dŷ.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 6