Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma'r gorchmynion, y deddfau a'r cyfreithiau y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw eu dysgu ichwi i'w cadw yn y wlad yr ydych yn mynd iddi i'w meddiannu,

2. er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau.

3. Gwrando, O Israel, a gofala eu cadw, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n cynyddu mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid.

4. Gwrando, O Israel: Y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD.

5. Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 6