Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Nid â'n hynafiaid y gwnaeth yr ARGLWYDD y cyfamod hwn, ond â ni i gyd sy'n fyw yma heddiw.

4. Llefarodd yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb â chwi ar y mynydd o ganol y tân.

5. Yr adeg honno yr oeddwn i yn sefyll rhwng yr ARGLWYDD a chwi i fynegi i chwi air yr ARGLWYDD, oherwydd yr oeddech chwi yn ofni'r tân, ac nid aethoch i fyny i'r mynydd. Dyma a ddywedodd:

6. “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.

7. “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.

8. “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr o dan y ddaear;

9. nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,

10. ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5