Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 5:15-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Cofia iti fod yn gaethwas yng ngwlad yr Aifft, ac i'r ARGLWYDD dy Dduw dy arwain allan oddi yno â llaw gadarn a braich estynedig; am hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti gadw'r dydd Saboth.

16. “Anrhydedda dy dad a'th fam, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy Dduw iti, er mwyn amlhau dy ddyddiau ac fel y bydd yn dda arnat yn y wlad y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi iti.

17. “Na ladd.

18. “Na odineba.

19. “Na ladrata.

20. “Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

21. “Na chwennych wraig dy gymydog, na dymuno cael tŷ dy gymydog, na'i dir, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”

22. Llefarodd yr ARGLWYDD y geiriau hyn â llais uchel wrth eich holl gynulliad ar y mynydd o ganol y tân, y cwmwl a'r tywyllwch, ac nid ychwanegodd ddim atynt. Yna ysgrifennodd hwy ar ddwy lechen garreg, a'u rhoi i mi.

23. Pan glywsoch y llais o ganol y tywyllwch, a'r mynydd ar dân, yna daeth penaethiaid eich llwythau a'ch henuriaid ataf,

24. a dywedasoch, “Dangosodd yr ARGLWYDD ein Duw inni ei ogoniant a'i fawredd, ac fe glywsom ei lais o ganol y tân; heddiw yr ydym yn gweld y gall bod meidrol fyw er i Dduw lefaru wrtho.

25. Yn awr, pam y byddwn ni farw? Bydd y tân mawr hwn yn sicr o'n difa, a byddwn farw, os bydd inni glywed llais yr ARGLWYDD ein Duw eto.

26. A glywodd unrhyw un lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel yr ydym ni wedi ei glywed, a byw?

27. Dos di, a gwrando ar y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD ein Duw, ac yna mynega wrthym y cyfan a lefarodd yr ARGLWYDD ein Duw wrthyt; fe wrandawn ninnau ac ufuddhau.”

28. Pan glywodd yr ARGLWYDD y geiriau a lefarasoch wrthyf, dywedodd, “Yr wyf wedi clywed geiriau'r bobl hyn pan oeddent yn llefaru wrthyt; ac y mae'r cyfan a ddywedant yn wir.

29. O na fyddent yn meddwl fel hyn o hyd, ac yn fy ofni ac yn cadw'r cyfan o'm gorchmynion bob amser, fel y byddai'n dda iddynt hwy a'u plant am byth!

30. Dos, a dywed wrthynt, ‘Ewch yn ôl i'ch pebyll.’

31. Saf di yma yn fy ymyl, ac fe lefaraf wrthyt yr holl orchmynion a'r deddfau a'r cyfreithiau yr wyt ti i'w dysgu iddynt, ac y maent hwy i'w cadw yn y wlad yr wyf yn ei rhoi iddynt i'w meddiannu.”

32. Gofalwch wneud fel y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gorchymyn ichwi; peidiwch â throi i'r dde na'r chwith.

33. Yr ydych i rodio yn ôl y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi, er mwyn i chwi gael byw a llwyddo, ac amlhau eich dyddiau yn y wlad y byddwch yn ei meddiannu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 5