Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 4:25-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Pan fydd gennych blant ac wyrion, a chwithau wedi mynd yn hen yn y wlad, os byddwch yn gweithredu'n llygredig trwy wneud delw gerfiedig ar unrhyw ffurf, ac yn gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw ac ennyn ei ddig,

26. yna yr adeg honno byddaf yn galw ar y nefoedd a'r ddaear i dystio yn eich erbyn, a byddwch yn sicr o ddiflannu'n gyflym o'r wlad yr ydych wedi croesi'r Iorddonen i'w meddiannu; ni chewch aros yno'n hir, ond fe'ch difethir yn llwyr.

27. Bydd yr ARGLWYDD yn eich gwasgaru ymhlith y bobloedd, ac ni adewir ond ychydig ohonoch ymhlith y cenhedloedd y bydd yr ARGLWYDD yn eich arwain atynt.

28. Yna byddwch yn addoli duwiau o waith dwylo dynol, duwiau o bren a cherrig, nad ydynt yn gweld nac yn clywed nac yn bwyta nac yn arogli.

29. Os byddwch yn ceisio'r ARGLWYDD eich Duw yno, ac yn chwilio amdano â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, byddwch yn ei gael.

30. Pan fydd yn gyfyng arnat, a'r holl bethau hyn yn digwydd iti yn y dyddiau sy'n dod, yna tro at yr ARGLWYDD dy Dduw a gwrando ar ei lais.

31. Oherwydd Duw trugarog yw'r ARGLWYDD dy Dduw; ni fydd yn dy siomi nac yn dy ddifa, ac ni fydd yn anghofio'r cyfamod a wnaeth trwy lw â'th hynafiaid.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 4