Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 34:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth Moses i fyny o rosydd Moab i Fynydd Nebo, i ben Pisga gyferbyn â Jericho. Dangosodd yr ARGLWYDD iddo y wlad gyfan, sef Gilead cyn belled â Dan,

2. holl Nafftali a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda hyd fôr y gorllewin;

3. yna'r Negef a gwastadedd dyffryn Jericho, dinas y palmwydd, cyn belled â Soar.

4. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dyma'r wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob, a dweud, ‘Rhoddaf hi i'th ddisgynyddion.’ Dangosais hi i ti, ond ni chei fynd trosodd yno.”

5. Ac yno yng ngwlad Moab y bu farw Moses gwas yr ARGLWYDD, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

6. Claddwyd ef mewn cwm yng ngwlad Moab, gyferbyn â Beth-peor, ac nid oes neb yn gwybod man ei fedd hyd y dydd hwn.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 34