Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:9-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Fe ddywed am ei dad a'i fam,“Nid wyf yn eu hystyried”,ac nid yw'n cydnabod ei frodyrnac yn arddel ei blant.Oherwydd bu'n cadw dy airac yn gwarchod dy gyfamod.

10. Y mae'n dysgu dy ddeddfau i Jacoba'th gyfraith i Israel.Y mae'n gosod arogldarth ger dy fron,a'r aberth llwyr ar dy allor.

11. Bendithia, O ARGLWYDD, ei wrhydri,a derbyn waith ei ddwylo.Dryllia lwynau'r rhai sy'n codi yn ei erbyn,ac eiddo'i gaseion, rhag iddynt godi eto.

12. Dywedodd am Benjamin:Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch;bydded i'r Goruchaf gysgodi drosto trwy'r dydd,a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.

13. Dywedodd am Joseff:Bydded i'w dir gael ei fendithio gan yr ARGLWYDDâ ffrwyth gorau'r nef, y gwlith,a dŵr o'r dyfnder isod;

14. â chynnyrch gorau'r haul,a thwf gorau'r misoedd;

15. â phrif gynnyrch y mynyddoedd hen,a ffrwythlondeb y bryniau oesol,

16. â gorau'r ddaear a'i llawnder,a ffafr preswylydd y berth.Doed hyn i gyd ar ben Joseff,ar gopa'r un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.

17. Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf,a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt;bydd yn cornio'r bobloedd â hwya'u gyrru hyd eithaf y ddaear.Rhai felly fydd myrddiynau Effraim,rhai felly fydd miloedd Manasse.

18. Dywedodd am Sabulon:Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel,ac Issachar yn dy bebyll.

19. Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,ac yno offrymu aberthau cywir.Yn wir, cânt sugno golud y môr,a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.

20. Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.

21. Gofalodd am y gorau iddo'i hun;cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.Daeth â phenaethiaid y bobl allan;gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33