Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:12-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Dywedodd am Benjamin:Bydded i anwylyd yr ARGLWYDD fyw mewn diogelwch;bydded i'r Goruchaf gysgodi drosto trwy'r dydd,a gwneud ei drigfan rhwng ei lechweddau.

13. Dywedodd am Joseff:Bydded i'w dir gael ei fendithio gan yr ARGLWYDDâ ffrwyth gorau'r nef, y gwlith,a dŵr o'r dyfnder isod;

14. â chynnyrch gorau'r haul,a thwf gorau'r misoedd;

15. â phrif gynnyrch y mynyddoedd hen,a ffrwythlondeb y bryniau oesol,

16. â gorau'r ddaear a'i llawnder,a ffafr preswylydd y berth.Doed hyn i gyd ar ben Joseff,ar gopa'r un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.

17. Boed ei ysblander fel eiddo'r ych blaenaf,a'i gyrn fel cyrn ych gwyllt;bydd yn cornio'r bobloedd â hwya'u gyrru hyd eithaf y ddaear.Rhai felly fydd myrddiynau Effraim,rhai felly fydd miloedd Manasse.

18. Dywedodd am Sabulon:Llawenha, Sabulon, wrth fynd allan i ryfel,ac Issachar yn dy bebyll.

19. Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,ac yno offrymu aberthau cywir.Yn wir, cânt sugno golud y môr,a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.

20. Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.

21. Gofalodd am y gorau iddo'i hun;cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.Daeth â phenaethiaid y bobl allan;gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.

22. Dywedodd am Dan:Cenau llew yw Dan,yn neidio allan o Basan.

23. Dywedodd am Nafftali:Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali,a llawn o fendith yr ARGLWYDD;bydd ei etifeddiaeth at y môr ac i'r de.

24. Dywedodd am Aser:Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill,a bod yn ffefryn gan ei frodyr,yn trochi ei droed mewn olew.

25. Bydded dy farrau o haearn a phres,a'th gryfder yn cydredeg â'th ddyddiau.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33