Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 33:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma'r fendith ar blant Israel a gyhoeddodd Moses gŵr Duw, cyn ei farw:

2. Cododd yr ARGLWYDD o Sinaia gwawriodd arnynt o Seir;disgleiriodd o Fynydd Parana dod â myrddiynau o Cades,o'r de, o lethrau'r mynyddoedd.

3. Yn ddiau, y mae'n caru ei bobl,a'i holl saint sydd yn ei law;plygant yn isel wrth ei draeda derbyn ei ddysgeidiaeth,

4. y gyfraith a orchmynnodd Moses inni,yn etifeddiaeth i gynulliad Jacob.

5. Gwnaed ef yn frenin ar Jesurunpan ymgasglodd penaethiaid y bobl,a phan ddaeth llwythau Israel ynghyd.

6. Bydded Reuben fyw, ac nid marw,ond na foed ei dylwyth yn niferus.

7. A dyma a ddywedodd am Jwda:Clyw, O ARGLWYDD, lef Jwda,a dwg ef at ei bobl;â'i ddwylo yr ymdrechodd—ond bydd di'n gymorth iddo rhag ei elynion.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 33