Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 32:27-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. oni bai imi ofni y byddai'r gelyn yn eu gwawdio,a'u gwrthwynebwyr yn camddealla dweud, ‘Ein llaw ni sydd wedi trechu;nid yr ARGLWYDD a wnaeth hyn oll.’ ”

28. Cenedl brin o gyngor ydynt,heb ddealltwriaeth ganddynt;

29. gresyn na fyddent yn ddigon doeth i sylweddoli hynac i amgyffred beth fydd eu diwedd!

30. Sut y gall un ymlid mil,neu ddau yrru myrdd ar ffo,oni bai fod eu Craig wedi eu gwerthu,a'r ARGLWYDD wedi eu caethiwo?

31. Oherwydd nid yw eu craig hwy yn debyg i'n Craig ni,fel y mae ein gelynion yn cydnabod.

32. Daw eu gwinwydd o Sodomac o feysydd Gomorra;grawnwin gwenwynig sydd arnynt,yn sypiau chwerw.

33. Gwenwyn seirff yw eu gwin,poeryn angheuol asbiaid.

34. Onid yw hyn gennyf wrth gefn,wedi ei selio yn fy stôr,

35. mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth,pan fydd eu troed yn llithro?Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos,a'u distryw yn brysio atynt.

36. Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobla bydd yn trugarhau wrth ei weision,pan wêl fod eu nerth wedi darfod,ac nad oes ar ôl na chaeth na rhydd.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 32