16. Gwnaethant ef yn eiddigeddus â duwiau dieithr,a'i ddigio ag arferion ffiaidd.
17. Yr oeddent yn aberthu i ddemoniaid nad oeddent dduwiau,ac i dduwiau nad oeddent yn eu hadnabod,duwiau newydd yn dod oddi wrth eu cymdogion,nad oedd eu hynafiaid wedi eu parchu.
18. Anghofiaist y Graig a'th genhedlodd,a gollwng dros gof y Duw a ddaeth â thi i'r byd.
19. Pan welodd yr ARGLWYDD hyn, fe'u ffieiddiodd hwy,oherwydd i'w feibion a'i ferched ei gythruddo.
20. Dywedodd, “Cuddiaf fy wyneb rhagddynt,edrychaf beth fydd eu diwedd;oherwydd cenhedlaeth wrthryfelgar ydynt,plant heb ffyddlondeb ynddynt.
21. Gwnaethant fi'n eiddigeddus wrth un nad yw'n dduw,a'm digio â'u heilunod;gwnaf finnau hwy'n eiddigeddus wrth bobl nad yw'n bobl,a'u digio â chenedl ynfyd.
22. “Yn ddiau, cyneuwyd tân gan fy nig,ac fe lysg hyd waelod Sheol;bydd yn ysu'r tir a'i gynnyrch,ac yn ffaglu seiliau'r mynyddoedd.
23. Pentyrraf ddrygau arnynt,saethaf atynt bob saeth sydd gennyf:
24. nychdod newyn, anrheithiau twymyn,a dinistr chwerw.Anfonaf ddannedd bwystfilod yn eu herbyna gwenwyn ymlusgiaid y llwch.
25. Oddi allan bydd y cleddyf yn creu amddifaid,ac yn y cartref bydd arswyd;trewir y gwŷr ifainc a'r gwyryfon fel ei gilydd,y baban sugno yn ogystal â'r hynafgwr.
26. “Fy mwriad oedd eu gwasgaru,a pheri i bob coffa amdanynt ddarfod,