Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Pan orffennodd Moses ysgrifennu geiriau'r gyfraith hon mewn llyfr, o'r dechrau i'r diwedd,

25. rhoddodd i'r Lefiaid, a oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD, y gorchymyn hwn:

26. “Cymerwch y llyfr cyfraith hwn, a rhowch ef wrth ochr arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, i aros yno'n dyst yn eich erbyn;

27. oherwydd gwn mor wrthnysig a gwargaled ydych. Yn wir, os ydych yn wrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD heddiw, a minnau'n dal yn fyw yn eich mysg, pa faint mwy felly y byddwch wedi imi farw!

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31