Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 31:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. pan fydd Israel gyfan yn dod i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd yn ei ddewis, yr wyt ti i gyhoeddi'r gyfraith hon yng ngŵydd ac yng nghlyw Israel gyfan.

12. Cynnull y bobl, yn wŷr, gwragedd a phlant, a'r dieithriaid sy'n byw yn dy drefi, er mwyn iddynt glywed, a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a gofalu gwneud popeth yn y gyfraith hon.

13. Y mae eu plant hefyd, nad ydynt yn ei gwybod, i wrando arni a dysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw tra byddant yn byw yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu.”

14. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y mae dydd dy farw yn nesáu; galw Josua, a chymerwch eich lle ym mhabell y cyfarfod, er mwyn imi roi gorchymyn iddo.” Wedi i Moses a Josua fynd a chymryd eu lle ym mhabell y cyfarfod,

15. ymddangosodd yr ARGLWYDD yn y babell mewn colofn gwmwl, a safodd y golofn gwmwl wrth ddrws y babell.

16. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Gyda hyn byddi'n mynd i orwedd gyda'th hynafiaid, a bydd y bobl hyn yn dechrau puteinio ar ôl duwiau dieithr y wlad y maent yn mynd i mewn iddi; byddant yn fy ngwrthod i, ac yn torri fy nghyfamod a wneuthum â hwy.

17. Yna fe enynnir fy nig yn eu herbyn, a byddaf finnau yn eu gwrthod ac yn cuddio fy wyneb rhagddynt; byddant yn barod i'w difa, a daw llawer o drychinebau ac argyfyngau ar eu llwybr. Y diwrnod hwnnw fe ddywedant, ‘Onid am nad yw ein Duw yn ein plith y daeth y drygau hyn i'n rhan?’

18. A byddaf fi'n cuddio fy wyneb yn llwyr rhagddynt y diwrnod hwnnw, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaethant wrth droi at dduwiau estron.

19. “Yn awr, ysgrifennwch y gerdd hon a'i dysgu i'r Israeliaid, a pheri iddynt ei hadrodd, fel y bydd yn dyst gennyf yn eu herbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 31