3. Rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw Og brenin Basan a'i holl fyddin yn ein dwylo, a lladdasom hwy, heb adael un yn weddill.
4. Yr adeg honno cymerasom ei ddinasoedd i gyd heb adael yr un ar ôl, sef trigain ohonynt, y cyfan o diriogaeth Argob, teyrnas Og yn Basan.
5. Yr oedd y rhain i gyd yn ddinasoedd caerog, gyda muriau uchel a dorau a barrau; yr oedd hefyd lawer iawn o bentrefi heb furiau.
6. Lladdasom bawb ym mhob dinas, yn ddynion, gwragedd a phlant, fel y gwnaethom i Sihon brenin Hesbon.
7. Cymerasom y gwartheg i gyd yn ysbail i ni ein hunain, ac anrhaith y dinasoedd.
8. Yr adeg honno cymerasom oddi ar ddau frenin yr Amoriaid y wlad y tu hwnt i'r Iorddonen, o nant Arnon hyd fynydd-dir Hermon.
9. Enw'r Sidoniaid ar Hermon oedd Sirion, ond yr oedd yr Amoriaid yn ei alw'n Senir.
10. Cymerasom holl ddinasoedd y gwastadedd, a'r cyfan o Gilead a Basan hyd at Salcha ac Edrei, oedd yn perthyn i deyrnas Og yn Basan.
11. Og brenin Basan oedd yr unig un ar ôl o weddill y Reffaim. Yr oedd ganddo wely haearn naw cufydd o hyd a phedwar cufydd o led, yn ôl y cufydd cyffredin; ac onid yw yn Rabba, dinas yr Ammoniaid?
12. O'r wlad a gymerasom yn feddiant yr adeg honno, rhoddais i Reuben a Gad y tir oedd yn ymestyn o Aroer ar hyd glan nant Arnon, a hanner mynydd-dir Gilead, gyda'i ddinasoedd.
13. Rhoddais i hanner llwyth Manasse y gweddill o Gilead, a'r cyfan o deyrnas Og yn Basan, tiriogaeth Argob i gyd. Gwlad y Reffaim oedd yr enw ar y cyfan o Basan.