Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 3:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. O'r wlad a gymerasom yn feddiant yr adeg honno, rhoddais i Reuben a Gad y tir oedd yn ymestyn o Aroer ar hyd glan nant Arnon, a hanner mynydd-dir Gilead, gyda'i ddinasoedd.

13. Rhoddais i hanner llwyth Manasse y gweddill o Gilead, a'r cyfan o deyrnas Og yn Basan, tiriogaeth Argob i gyd. Gwlad y Reffaim oedd yr enw ar y cyfan o Basan.

14. Cymerodd Jair fab Manasse y cyfan o diriogaeth Argob hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a hyd heddiw gelwir Basan yn Hafoth-jair ar ei ôl ef.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 3