Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Y Cyfamod ag Israel yn Moab

1. Dyma eiriau'r cyfamod y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ei wneud â'r Israeliaid yng ngwlad Moab, yn ychwanegol at y cyfamod a wnaeth â hwy yn Horeb.

2. Galwodd Moses ar Israel gyfan, a dweud wrthynt: Gwelsoch â'ch llygaid eich hunain y cwbl a wnaeth yr ARGLWYDD yn yr Aifft i Pharo a'i weision i gyd a'i holl wlad;

3. gwelsoch y profion mawr, yr arwyddion a'r argoelion mawr hynny.

4. Ond hyd y dydd hwn ni roddodd yr ARGLWYDD ichwi feddwl i ddeall, na llygaid i ganfod, na chlustiau i glywed.

5. Yn ystod y deugain mlynedd yr arweiniais chwi drwy'r anialwch, ni threuliodd eich dillad na'r sandalau am eich traed.

6. Nid oeddech yn bwyta bara nac yn yfed gwin na diod gadarn, a hynny er mwyn ichwi sylweddoli mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw.

7. Pan ddaethoch i'r lle hwn, daeth Sihon brenin Hesbon ac Og brenin Basan yn ein herbyn i ryfel, ond fe'u gorchfygwyd gennym.

8. Wedi inni gymryd eu tir, rhoesom ef yn etifeddiaeth i lwythau Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse.

9. Gofalwch gadw gofynion y cyfamod hwn, er mwyn ichwi lwyddo ym mhopeth a wnewch.

10. Yr ydych yn sefyll yma heddiw gerbron yr ARGLWYDD eich Duw, pob un ohonoch: penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid a'ch swyddogion, pawb o wŷr Israel,

11. a hefyd eich plant, eich gwragedd, a'r dieithryn sy'n byw yn eich mysg, yn torri tanwydd ac yn codi dŵr ichwi.

12. Yr ydych yn sefyll i dderbyn cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, a'r cytundeb trwy lw y mae'n ei wneud â chwi heddiw,

13. i'ch sefydlu'n bobl iddo'i hun, ac yntau'n Dduw i chwi, fel y dywedodd wrthych, ac fel yr addawodd i'ch tadau, Abraham, Isaac a Jacob.

14. Yr wyf yn gwneud y cyfamod a'r cytundeb hwn trwy lw, nid yn unig â chwi

15. sy'n sefyll yma gyda ni heddiw gerbron yr ARGLWYDD ein Duw, ond hefyd â'r rhai nad ydynt yma gyda ni heddiw.

16. Oherwydd fe wyddoch sut yr oedd, pan oeddem yn byw yng ngwlad yr Aifft a phan ddaethom drwy ganol y cenhedloedd ar y ffordd yma;

17. gwelsoch eu delwau ffiaidd a'u heilunod o bren a charreg, o arian ac aur.

18. Gwyliwch rhag bod yn eich mysg heddiw na gŵr, gwraig, tylwyth, na llwyth a'i galon yn troi oddi wrth yr ARGLWYDD ein Duw i fynd ac addoli duwiau'r cenhedloedd hynny, a rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn cynhyrchu ffrwyth gwenwynig a chwerw.

19. Os bydd un felly yn clywed geiriau'r cytundeb hwn trwy lw, yn ei ganmol ei hun yn ei galon ac yn dweud, “Byddaf fi'n ddiogel, er imi rodio yn fy nghyndynrwydd”, gwylied; oherwydd ysgubir ymaith y tir a ddyfrhawyd yn ogystal â'r sychdir.

20. Bydd yr ARGLWYDD yn anfodlon maddau iddo; yn wir bydd ei ddicter a'i eiddigedd yn cynnau yn erbyn hwnnw, a bydd yr holl felltithion a groniclir yn y llyfr hwn yn disgyn arno. Bydd yr ARGLWYDD yn dileu ei enw oddi tan y nefoedd,

21. ac yn ei osod ar wahân i lwythau Israel i dderbyn drwg yn ôl holl felltithion y cyfamod a gynhwysir yn y llyfr hwn o'r gyfraith.

22. Bydd y genhedlaeth nesaf, sef eich plant a ddaw ar eich ôl, a'r estron a ddaw o wlad bell, yn gweld y plâu a'r clefydau a anfonodd yr ARGLWYDD ar y wlad.

23. Bydd brwmstan a halen wedi llosgi'r holl dir, heb ddim yn cael ei hau, na dim yn egino, na'r un blewyn glas yn tyfu ynddo. Bydd fel galanastra Sodom a Gomorra, neu Adma a Seboim, y bu i'r ARGLWYDD eu dymchwel yn ei ddicter a'i lid.

24. A bydd yr holl genhedloedd yn gofyn, “Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD hyn i'r wlad hon? Pam y dicter mawr, deifiol hwn?”

25. A'r ateb fydd: “Am iddynt dorri cyfamod ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid, y cyfamod a wnaeth â hwy pan ddaeth â hwy allan o'r Aifft.

26. Aethant a gwasanaethu duwiau estron, ac addoli duwiau nad oeddent wedi eu hadnabod ac nad oedd ef wedi eu pennu ar eu cyfer.

27. Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn y wlad honno, fel y dygodd arni'r holl felltithion a gynhwysir yn y llyfr hwn.

28. Dinistriodd yr ARGLWYDD hwy o'u tir mewn digofaint a llid a dicter mawr, a'u bwrw i wlad arall, lle y maent o hyd.”

29. Y mae'r pethau dirgel yn eiddo i'r ARGLWYDD ein Duw; ond y mae'r pethau a ddatguddiwyd yn perthyn am byth i ni a'n plant, er mwyn i ni gadw holl ofynion y gyfraith hon.