Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:62-68 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

62. Fe'th adewir di, a fu mor niferus â sêr y nefoedd, yn ychydig o bobl, am iti beidio â gwrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw.

63. Fel y bu'r ARGLWYDD yn llawenhau o'th blegid wrth iddo wneud daioni iti a'th amlhau, bydd yn llawenhau o'th blegid yr un modd wrth iddo dy ddifodi a'th ddinistrio. Bydd yn dy ddiwreiddio o'r tir hwn y daethost i'w feddiannu.

64. Bydd yr ARGLWYDD yn dy wasgaru ymysg yr holl bobloedd, o un cwr o'r byd i'r llall; ac yno byddi'n gwasanaethu duwiau estron, duwiau o bren a charreg, nad oeddit ti na'th hynafiaid yn eu hadnabod.

65. Ni chei lonydd na gorffwysfa i wadn dy droed ymhlith y cenhedloedd hyn; bydd yr ARGLWYDD yn rhoi iti yno galon ofnus, llygaid yn pallu ac ysbryd llesg.

66. Bydd dy fywyd fel pe'n hongian o'th flaen, a bydd arnat ofn nos a dydd, heb ddim sicrwydd gennyt am dy einioes.

67. O achos yr ofn yn dy galon a'r hyn a wêl dy lygaid, byddi'n dweud yn y bore, “O na fyddai'n hwyr!” ac yn yr hwyr, “O na fyddai'n fore!”

68. Bydd yr ARGLWYDD yn dy ddychwelyd i'r Aifft mewn tristwch, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt na fyddit yn ei gweld rhagor, ac yno byddwch yn eich cynnig eich hunain ar werth i'ch gelynion fel caethion a chaethesau, heb neb yn prynu.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28