5. Os bydd brodyr yn byw gyda'i gilydd ac un ohonynt yn marw'n ddi-blant, nid yw'r weddw i briodi estron o'r tu allan; y mae ei brawd-yng-nghyfraith i fynd i mewn ati a'i chymryd hi'n wraig iddo, a chyflawni dyletswydd.
6. Bydd y mab cyntaf a enir iddi yn cymryd enw'r brawd a fu farw, rhag dileu ei enw o Israel.
7. Ac os na bydd y dyn hwnnw'n dymuno priodi ei chwaer-yng-nghyfraith, aed honno i fyny i'r porth at yr henuriaid a dweud, “Y mae fy mrawd-yng-nghyfraith yn gwrthod sicrhau bod enw ei frawd yn parhau yn Israel; nid yw'n fodlon cyflawni dyletswydd brawd-yng-nghyfraith â mi.”
8. Yna y mae henuriaid ei dref i'w alw atynt a siarad ag ef; ac os yw'n para i ddweud, “Nid wyf yn dymuno ei phriodi”,
9. bydd ei chwaer-yng-nghyfraith yn dod ato yng ngŵydd yr henuriaid, yn tynnu ei sandal oddi ar ei droed, yn poeri yn ei wyneb ac yn cyhoeddi, “Dyma a wneir i'r dyn nad yw am adeiladu tŷ ei frawd.”
10. A bydd ei deulu'n cael ei adnabod drwy Israel fel teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal.
11. Os bydd dau gymydog yn ymladd â'i gilydd, a gwraig y naill yn dod i achub ei gŵr rhag yr un sy'n ei daro, ac yn estyn ei llaw a chydio yng nghwd y llall,
12. torrer ei llaw i ffwrdd; nid wyt i dosturio wrthi.
13. Nid wyt i feddu pwysau anghyfartal yn dy god, un yn drwm a'r llall yn ysgafn.