Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 25:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Cofia'r hyn a wnaeth Amalec iti ar dy ffordd allan o'r Aifft;

18. heb ofni Duw, daeth allan ac ymosod o'r tu cefn ar bawb oedd yn llusgo'n araf ar dy ôl, pan oeddit yn lluddedig a diffygiol.

19. Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi rhoi iti lonydd oddi wrth dy holl elynion o'th amgylch yn y wlad y mae'n ei rhoi iti i'w meddiannu'n etifeddiaeth, yr wyt i ddileu coffadwriaeth Amalec oddi tan y nef. Paid ag anghofio.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 25