Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 20:5-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna bydd y swyddogion yn annerch ac yn dweud wrth y fyddin, “Pwy bynnag sydd wedi adeiladu tŷ newydd ond heb ei gysegru, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei gysegru.

6. A phwy bynnag sydd wedi plannu gwinllan ond heb fwynhau ei ffrwyth, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei fwynhau.

7. A phwy bynnag sydd wedi dyweddïo â merch ond heb ei phriodi, aed yn ei ôl adref, rhag iddo farw yn y frwydr ac i rywun arall ei phriodi.”

8. Wedyn y mae'r swyddogion i ddweud ymhellach wrth y fyddin, “Pwy bynnag sy'n ofnus ac yn wangalon, aed yn ei ôl adref, rhag iddo wanhau calonnau ei frodyr yr un modd.”

9. Wedi i'r swyddogion orffen annerch y fyddin, byddant yn gosod capteiniaid dros luoedd y fyddin.

10. Pan fyddi ar fin brwydro yn erbyn tref, cynnig delerau heddwch iddi.

11. Os derbyniant y telerau heddwch ac agor y pyrth iti, yna bydd pawb a geir ynddi yn gweithio iti dan lafur gorfod.

12. Os na dderbyniant delerau heddwch, ond dechrau rhyfela yn dy erbyn, yna gwarchae ar y dref;

13. a phan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi ei rhoi yn dy law, lladd bob gwryw ynddi â'r cleddyf.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 20