Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 2:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Talwch ag arian am y bwyd a brynwch ganddynt i'w fwyta, a'r un modd am y dŵr a yfwch.’

7. Y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio yn y cyfan a wnaethost, ac wedi gwylio dy daith yn yr anialwch mawr hwn; am y deugain mlynedd hyn bu'r ARGLWYDD dy Dduw gyda thi, ac ni fu arnat eisiau dim.”

8. Yna aethom oddi wrth ein perthnasau, tylwyth Esau, a oedd yn byw yn Seir, ac o ffordd yr Araba, ac o Elath ac Esion-geber, a throi i gyfeiriad anialwch Moab.

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf eto, “Paid â chythruddo'r Moabiaid, na bygwth ymladd yn eu herbyn, oherwydd ni roddaf feddiant i ti o'u tir, am fy mod wedi rhoi Ar yn feddiant i dylwyth Lot.”

10. Cyn hynny yr oedd yr Emim, dynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim, yn byw yno.

11. Ystyrid hwythau'n Reffaim fel yr Anacim, ond bod y Moabiaid yn eu galw'n Emim.

12. A hefyd yn yr amser gynt yr oedd yr Horiaid yn byw yn Seir, ond cymerodd tylwyth Esau eu tiriogaeth a'u difa hwy o'u blaen, a byw yno yn eu lle, fel y gwnaeth yr Israeliaid yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD yn feddiant iddynt.

13. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Yn awr paratowch i groesi nant Sared.” Felly aethom dros nant Sared.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 2