Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 2:24-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. “Cychwynnwch yn awr ar eich taith, a chroeswch nant Arnon. Edrych, yr wyf yn rhoi Sihon yr Amoriad, brenin Hesbon, a'i wlad yn dy law. Dos ati i'w meddiannu, ac ymosod arno.

25. Heddiw fe ddechreuaf wneud i'r holl bobloedd dan y nefoedd ofni ac arswydo o'th flaen; pan glywant sôn amdanat, byddant yn crynu ac yn arswydo o'th flaen.”

26. Yna anfonais negeswyr o anialwch Cedemoth at Sihon brenin Hesbon gyda geiriau heddychlon,

27. “Gad imi deithio trwy dy dir ar hyd y briffordd; fe deithiaf arni heb droi i'r dde na'r chwith.

28. Cei werthu imi am arian y bwyd y byddaf yn ei fwyta, a chei arian gennyf am y dŵr a roi imi i'w yfed; yn unig rho ganiatâd imi deithio ar droed trwy dy dir,

29. fel y rhoddodd tylwyth Esau sy'n byw yn Seir imi, a hefyd y Moabiaid sy'n byw yn Ar, nes imi groesi'r Iorddonen i'r wlad y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn ei rhoi inni.”

30. Ond nid oedd Sihon brenin Hesbon yn fodlon inni deithio trwodd, oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD eich Duw wedi caledu ei ysbryd a gwneud ei galon yn ystyfnig er mwyn ei roi yn eich llaw chwi, fel y mae heddiw.

31. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Edrych, yr wyf wedi dechrau rhoi Sihon a'i dir i ti; dos ati i gymryd meddiant o'i wlad.”

32. Daeth Sihon a'i holl fyddin allan i ymladd yn ein herbyn yn Jahas;

33. a rhoddodd yr ARGLWYDD ein Duw ef yn ein dwylo, a lladdasom ef a'i feibion a'i holl fyddin.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 2