Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 2:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna troesom a mynd i'r anialwch i gyfeiriad y Môr Coch, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyf, a buom yn teithio o gwmpas mynydd-dir Seir am ddyddiau lawer.

2. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,

3. “Yr ydych wedi teithio'n ddigon hir o gwmpas y mynydd-dir hwn; trowch yn awr i'r gogledd.

4. Gorchymyn i'r bobl a dweud wrthynt, ‘Yr ydych yn mynd i deithio trwy diriogaeth eich perthnasau, tylwyth Esau, sy'n byw yn Seir.

5. Y maent yn eich ofni, ond gofalwch beidio ag ymosod arnynt, oherwydd ni roddaf i chwi gymaint â lled troed o'u tir, am fy mod wedi rhoi mynydd-dir Seir yn etifeddiaeth i Esau.

6. Talwch ag arian am y bwyd a brynwch ganddynt i'w fwyta, a'r un modd am y dŵr a yfwch.’

7. Y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio yn y cyfan a wnaethost, ac wedi gwylio dy daith yn yr anialwch mawr hwn; am y deugain mlynedd hyn bu'r ARGLWYDD dy Dduw gyda thi, ac ni fu arnat eisiau dim.”

8. Yna aethom oddi wrth ein perthnasau, tylwyth Esau, a oedd yn byw yn Seir, ac o ffordd yr Araba, ac o Elath ac Esion-geber, a throi i gyfeiriad anialwch Moab.

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf eto, “Paid â chythruddo'r Moabiaid, na bygwth ymladd yn eu herbyn, oherwydd ni roddaf feddiant i ti o'u tir, am fy mod wedi rhoi Ar yn feddiant i dylwyth Lot.”

10. Cyn hynny yr oedd yr Emim, dynion mawr, niferus a thal fel yr Anacim, yn byw yno.

11. Ystyrid hwythau'n Reffaim fel yr Anacim, ond bod y Moabiaid yn eu galw'n Emim.

12. A hefyd yn yr amser gynt yr oedd yr Horiaid yn byw yn Seir, ond cymerodd tylwyth Esau eu tiriogaeth a'u difa hwy o'u blaen, a byw yno yn eu lle, fel y gwnaeth yr Israeliaid yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD yn feddiant iddynt.

13. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Yn awr paratowch i groesi nant Sared.” Felly aethom dros nant Sared.

14. Cymerodd ddeunaw mlynedd ar hugain inni deithio o Cades-barnea nes croesi nant Sared; erbyn hynny yr oedd y cyfan o genhedlaeth y rhyfelwyr wedi darfod o'r gwersyll, fel y tyngodd yr ARGLWYDD wrthynt.

15. Yn wir yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn eu herbyn, i'w difa'n llwyr o'r gwersyll.

16. Wedi marw y cyfan o'r rhyfelwyr o blith y bobl,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 2