Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 18:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. caiff wasanaethu yn enw'r ARGLWYDD ei Dduw ymysg ei gyd-Lefiaid sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD yno.

8. Caiff ran gyfartal i'w bwyta, heblaw'r hyn a gaiff o eiddo'i deulu.

9. Pan fyddi wedi dod i'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti, paid â dysgu gwneud yn ôl arferion ffiaidd y cenhedloedd hynny.

10. Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,

11. arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw.

12. Y mae unrhyw un sy'n ymhél â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.

13. Yr wyt i fod yn ddi-fai gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.

14. Y mae'r cenhedloedd yr wyt yn eu disodli yn gwrando ar ddewiniaid a hudolwyr; ond nid yw'r ARGLWYDD dy Dduw yn caniatáu hyn i ti.

15. Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn codi o blith dy gymrodyr broffwyd fel fi, ac arno ef yr wyt i wrando,

16. oherwydd dyna oedd dy ddeisyfiad gan yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb ar ddydd y cynulliad, pan ddywedaist, “Nid wyf am glywed llais yr ARGLWYDD fy Nuw rhagor, na gweld eto y tân mawr hwn, rhag imi farw.”

17. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Y mae'r hyn a ddywedant yn iawn;

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 18