Deuteronomium 16:15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Am saith diwrnod y byddi'n cadw gŵyl i'r ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl gynnyrch ac ym mhopeth a wnei, a byddi'n wirioneddol lawen.