Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 15:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Yn hytrach agor dy law yn llydan iddo, ac ar bob cyfrif rho'n fenthyg iddo ddigon ar gyfer ei angen.

9. Pan fydd y seithfed flwyddyn, blwyddyn dileu dyledion, yn agosáu, gwylia rhag coleddu meddyliau annheilwng ac edrych yn gas ar dy berthynas tlawd a gwrthod rhoi iddo; bydd yntau wedyn yn apelio at yr ARGLWYDD yn dy erbyn, ac fe'th geir yn euog o bechod.

10. Rho'n hael iddo, heb warafun yn dy galon wrth roi, ac oherwydd hyn bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn dy holl waith ac ym mhopeth a wnei.

11. Ni fydd prinder tlodion yn y tir; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti agor dy law yn hael i'th berthynas anghenus a thlawd yn dy wlad.

12. Os gwerthir iti gydwladwr, boed ddyn neu ddynes, a hwnnw'n dy wasanaethu am chwe blynedd, yr wyt i'w ryddhau yn y seithfed flwyddyn.

13. A phan fyddi'n ei ryddhau, paid â'i anfon i ffwrdd yn waglaw;

14. rho iddo gynhysgaeth hael o'th ddefaid a'th lawr dyrnu a'th winwryf, fel y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio di.

15. Cofia mai caethwas fuost tithau yng ngwlad yr Aifft, a bod yr ARGLWYDD dy Dduw wedi dy waredu. Dyna pam yr wyf yn gorchymyn hyn iti heddiw.

16. Ond os dywed dy was wrthyt na fyn ymadael â thi am ei fod yn hoff ohonot ti a'th deulu, a'i bod yn dda arno gyda thi,

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 15