Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 15:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Yr wyt ti a'th deulu i'w bwyta'n flynyddol gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis.

21. Os bydd nam arno, ac yntau'n gloff neu'n ddall, neu â rhyw nam difrifol arall arno, paid â'i aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw.

22. Caiff yr aflan a'r glân fel ei gilydd ei fwyta yn dy drefi, fel petai'n iwrch neu garw.

23. Er hynny, nid ydych i fwyta'r gwaed, ond ei dywallt fel dŵr ar y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 15