Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 15:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Ni fydd prinder tlodion yn y tir; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti agor dy law yn hael i'th berthynas anghenus a thlawd yn dy wlad.

12. Os gwerthir iti gydwladwr, boed ddyn neu ddynes, a hwnnw'n dy wasanaethu am chwe blynedd, yr wyt i'w ryddhau yn y seithfed flwyddyn.

13. A phan fyddi'n ei ryddhau, paid â'i anfon i ffwrdd yn waglaw;

14. rho iddo gynhysgaeth hael o'th ddefaid a'th lawr dyrnu a'th winwryf, fel y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy fendithio di.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 15