Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 15:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ddiwedd pob saith mlynedd yr wyt i ddileu dyledion.

2. Dyma sut y gwneir hynny: bydd pob echwynnwr yn dileu pob dyled sy'n ddyledus iddo, heb bwyso am ad-daliad oddi wrth gymydog na pherthynas, pan gyhoeddir yn enw'r ARGLWYDD ei bod yn bryd dileu dyledion.

3. Cei bwyso am ad-daliad gan estron, ond yr wyt i ddileu beth bynnag sy'n ddyledus iti gan dy berthynas.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 15