Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 13:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Os cyfyd yn eich plith broffwyd neu un yn cael breuddwydion, a rhoi ichwi arwydd neu argoel,

2. a hynny'n digwydd fel y dywedodd wrthych, ac yntau wedyn yn eich annog i fynd ac addoli duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod,

3. nid ydych i wrando ar eiriau'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw, oherwydd eich profi chwi y mae'r ARGLWYDD eich Duw i gael gwybod a ydych yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.

4. Yr ydych i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw a'i ofni, gan gadw ei orchmynion a gwrando ar ei lais, a'i wasanaethu ef a glynu wrtho.

5. Rhaid rhoi'r proffwyd neu'r breuddwydiwr hwnnw i farwolaeth am iddo geisio'ch troi oddi ar y llwybr y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi ei ddilyn, trwy lefaru gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft a'ch gwaredu o dŷ caethiwed. Rhaid ichwi ddileu'r drwg o'ch mysg.

6. Os bydd dy frawd agosaf, neu dy fab, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill mynwesol, yn ceisio dy ddenu'n llechwraidd a'th annog i fynd ac addoli duwiau estron nad wyt ti na'th hynafiaid wedi eu hadnabod,

7. o blith duwiau'r cenhedloedd o'th amgylch, mewn un cwr o'r wlad neu'r llall, yn agos neu ymhell,

8. paid â chydsynio ag ef, na gwrando arno. Paid â thosturio wrtho, na'i arbed, na'i gelu.

9. Yn hytrach rhaid iti ei ladd; dy law di fydd y gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo pawb o'r bobl wedyn.

10. Llabyddia ef yn gelain â cherrig, oherwydd fe geisiodd dy droi oddi wrth yr ARGLWYDD dy Dduw, a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed;

11. yna bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni, ac ni fyddant yn gwneud y fath ddrygioni â hwn yn eich plith byth eto.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 13