Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma'r deddfau a'r cyfreithiau yr ydych i ofalu eu cadw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei rhoi ichwi i'w meddiannu tra byddwch byw yn y tir.

2. Yr ydych i lwyr ddinistrio'r holl fannau ar y mynyddoedd uchel a'r bryniau, a than bob pren gwyrddlas, lle mae'r cenhedloedd yr ydych yn eu disodli yn addoli eu duwiau.

3. Yr ydych i dynnu i lawr eu hallorau, dryllio'u colofnau, llosgi eu pyst Asera yn y tân, torri i lawr ddelwau eu duwiau, a dinistrio'u henwau o'r mannau hynny.

4. Nid yn ôl eu dull hwy y gwnewch i'r ARGLWYDD eich Duw.

5. Yn hytrach ceisiwch y man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis o'ch holl lwythau yn drigfan i'w enw; yno y dewch,

6. a chyflwyno eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, eich addunedau a'ch offrymau gwirfodd, a chyntafanedig eich gwartheg a'ch defaid.

7. Yno gerbron yr ARGLWYDD eich Duw y byddwch chwi a'ch teuluoedd yn bwyta ac yn llawenhau ym mhopeth a wnewch, oherwydd i'r ARGLWYDD eich Duw eich bendithio.

8. Nid ydych i wneud yn union fel y gwnawn yma heddiw, lle y mae pawb yn gwneud fel y myn,

9. oherwydd nid ydych eto wedi cyrraedd yr orffwysfa a'r etifeddiaeth y mae'r ARGLWYDD eich Duw am eu rhoi ichwi.

10. Unwaith y byddwch dros yr Iorddonen ac yn byw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth ichwi, cewch lonydd oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, a byddwch yn byw mewn diogelwch.

11. Yna fe ddygwch i'r man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, a'ch rhoddion dethol, y rhai yr ydych wedi eu haddunedu i'r ARGLWYDD.

12. A byddwch yn llawenhau gerbron yr ARGLWYDD eich Duw, chwi a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion hefyd, a'r Lefiaid yn eich trefi, am nad oes ganddynt gyfran nac etifeddiaeth gyda chwi.

13. Gwylia rhag aberthu dy boethoffrymau ym mhobman a weli,

14. ond abertha hwy yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis o fewn un o'th lwythau; yno y gwnei bopeth yr wyf yn ei orchymyn iti.

15. Er hynny, cei ladd a bwyta faint a fynni o gig yn dy drefi, yn ôl yr hyn a gei drwy fendith yr ARGLWYDD dy Dduw, fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân ei fwyta.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12