Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 11:20-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. ysgrifennwch hwy ar byst eich tai ac yn eich pyrth,

21. er mwyn i'ch dyddiau chwi a'ch plant amlhau yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt, tra bo nefoedd uwchlaw daear.

22. Os byddwch yn ofalus i gadw'r cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, a charu'r ARGLWYDD eich Duw, a dilyn ei lwybrau ef i gyd, a glynu wrtho,

23. yna bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r holl genhedloedd hyn allan o'ch blaen, a chewch feddiannu eiddo cenhedloedd mwy a chryfach na chwi.

24. Eich eiddo chwi fydd pobman y bydd gwadn eich troed yn sengi arno, o'r anialwch hyd Lebanon, ac o'r afon, afon Ewffrates, hyd fôr y gorllewin; dyna fydd eich terfyn.

25. Ni fydd neb yn medru eich gwrthsefyll; fel yr addawodd ichwi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn peri i'ch arswyd a'ch dychryn fod dros wyneb yr holl dir a droediwch.

26. Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith:

27. bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw;

28. ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod.

29. A phan ddaw'r ARGLWYDD eich Duw â chwi i'r wlad yr ydych yn dod iddi i'w meddiannu, yna cyhoeddwch y fendith ar Fynydd Garisim a'r felltith ar Fynydd Ebal.

30. Fel y gwyddoch, y mae'r rhain yr ochr draw i'r Iorddonen i'r gorllewin, tuag at fachlud haul, yn nhir y Canaaneaid sy'n byw yn yr Araba, gyferbyn â Gilgal ac yn ymyl deri More.

31. Yr ydych ar fin croesi'r Iorddonen i ddod i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi; pan fyddwch wedi ei meddiannu a byw ynddi,

32. gofalwch gadw'r holl ddeddfau a chyfreithiau a osodais ger eich bron heddiw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 11