Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 11:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Tir y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano yw hwn, a'i lygaid yn wastad arno o ddechrau blwyddyn i'w diwedd.

13. Ac os byddwch yn gwrando o ddifrif ar fy ngorchmynion, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, i garu'r ARGLWYDD eich Duw a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,

14. yna byddaf yn anfon glaw yn ei bryd ar gyfer eich tir yn yr hydref a'r gwanwyn, a byddwch yn medi eich ŷd, eich gwin newydd a'ch olew;

15. rhof laswellt yn eich meysydd ar gyfer eich gwartheg, a chewch fwyta'ch gwala.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 11