Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 11:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr ydych i garu'r ARGLWYDD eich Duw a chadw ei ofynion, ei ddeddfau, ei gyfreithiau a'i orchmynion bob amser.

2. Gwyddoch chwi heddiw am ddisgyblaeth yr ARGLWYDD eich Duw, ond nid yw eich plant wedi ei brofi ef na'i weld, nac ychwaith ei fawredd, ei law gadarn a'i fraich estynedig; yr ydych chwi heddiw i'w cofio.

3. Gwyddoch am ei arwyddion a'i weithredoedd a wnaeth ymhlith yr Eifftiaid, i'r Brenin Pharo ac i'w holl wlad,

4. hefyd yr hyn a wnaeth i fyddin yr Aifft, ei meirch a'i cherbydau, pan barodd i ddyfroedd y Môr Coch lifo drostynt wrth iddynt eich ymlid, ac iddo'u difa hyd y dydd hwn.

5. Gwyddoch hefyd yr hyn a wnaeth er eich mwyn yn yr anialwch nes ichwi ddod i'r lle hwn,

6. a'r hyn a wnaeth i Dathan ac Abiram, meibion Eliab fab Reuben, pan agorodd y ddaear ei safn yng nghanol Israel gyfan a'u llyncu hwy a'u teuluoedd, eu pebyll a'r holl eiddo oedd yn perthyn iddynt.

7. Fe welsoch chwi â'ch llygaid eich hunain yr holl weithredoedd mawr a wnaeth yr ARGLWYDD.

8. Yr ydych i gadw pob gorchymyn yr wyf fi yn ei roi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fod yn ddigon cryf i fynd i mewn ac etifeddu'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu;

9. a hefyd er mwyn estyn eich oes yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt hwy a'u disgynyddion, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

10. Yn wir, nid yw'r wlad yr ydych ar ddod iddi i'w meddiannu yn debyg i wlad yr Aifft y daethoch allan ohoni, lle'r oeddech yn hau eich had ac yn ei ddyfrhau â'ch troed, fel gardd lysiau.

11. Ond y mae'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu yn wlad o fynyddoedd a dyffrynnoedd, yn yfed dŵr o law y nefoedd.

12. Tir y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano yw hwn, a'i lygaid yn wastad arno o ddechrau blwyddyn i'w diwedd.

13. Ac os byddwch yn gwrando o ddifrif ar fy ngorchmynion, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, i garu'r ARGLWYDD eich Duw a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,

14. yna byddaf yn anfon glaw yn ei bryd ar gyfer eich tir yn yr hydref a'r gwanwyn, a byddwch yn medi eich ŷd, eich gwin newydd a'ch olew;

15. rhof laswellt yn eich meysydd ar gyfer eich gwartheg, a chewch fwyta'ch gwala.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 11