Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:27-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Yr oeddech yn grwgnach yn eich pebyll, ac yn dweud, “Am fod yr ARGLWYDD yn ein casáu y daeth â ni allan o wlad yr Aifft a'n rhoi yn nwylo'r Amoriaid i'n difa.

28. Sut yr awn ni i fyny yno? Y mae ein brodyr wedi ein digalonni trwy ddweud fod y bobl yn fwy ac yn dalach na ni, a bod y dinasoedd yn fawr gyda chaerau cyn uched â'r nefoedd, ac iddynt weld disgynyddion yr Anacim yno.”

29. Yna dywedais wrthych, “Peidiwch ag arswydo nac ofni o'u hachos.

30. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn mynd o'ch blaen, ac ef fydd yn ymladd trosoch, fel y gwnaeth yn eich gŵydd yn yr Aifft,

31. a hefyd yn yr anialwch lle gwelsoch fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich cario, fel y bydd dyn yn cario ei fab ei hun, bob cam o'r ffordd yr oeddech yn ei theithio nes dod i'r lle hwn.”

32. Ond er hyn, nid oeddech chwi yn ymddiried yn yr ARGLWYDD eich Duw,

33. a oedd yn mynd o'ch blaen ar y ffordd, mewn tân yn y nos i chwilio am le ichwi wersyllu, ac mewn cwmwl yn y dydd i ddangos ichwi'r ffordd i'w dilyn.

34. Pan glywodd yr ARGLWYDD eich geiriau, digiodd, a thyngodd:

35. “Ni chaiff yr un o'r genhedlaeth ddrwg hon weld y wlad dda y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid.

36. Caleb fab Jeffunne yn unig a gaiff ei gweld, ac iddo ef a'i ddisgynyddion y rhoddaf y wlad y troediodd ef arni, am iddo ef lwyr ddilyn yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1