Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 9:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y mae holl Israel wedi torri dy gyfraith a gwrthod gwrando ar dy lais; ac am inni bechu yn ei erbyn tywalltwyd arnom y felltith a'r llw sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gwas Duw.

12. Cyflawnodd yr hyn a ddywedodd amdanom ni ac am ein barnwyr trwy ddwyn dinistr mawr arnom, oherwydd ni ddigwyddodd yn unman ddim tebyg i'r hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem.

13. Daeth y dinistr hwn arnom, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses; eto nid ydym wedi ymbil ar yr ARGLWYDD ein Duw trwy droi oddi wrth ein camweddau ac ystyried dy wirionedd di.

14. Cadwodd yr ARGLWYDD olwg ar y dinistr hwn nes dod ag ef arnom, am fod yr ARGLWYDD ein Duw yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd, a ninnau heb wrando ar ei lais.

15. “Ac yn awr, O Arglwydd ein Duw, sydd wedi achub dy bobl o wlad yr Aifft â llaw gref a gwneud enw i ti dy hun hyd heddiw, yr ydym ni wedi pechu a gwneud drygioni.

16. O Arglwydd, yn unol â'th holl weithredoedd cyfiawn, erfyniwn arnat i droi dy lid a'th ddigofaint oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd, oherwydd am ein pechodau ni ac am gamweddau ein hynafiaid y mae Jerwsalem a'th bobl yn wawd i bawb o'n cwmpas.

17. Ac yn awr, ein Duw, gwrando ar weddi ac ymbil dy was, ac er dy fwyn dy hun pâr i'th wyneb ddisgleirio ar dy gysegr anghyfannedd.

18. Fy Nuw, gostwng dy glust a gwrando; agor dy lygaid ac edrych ar ein hanrhaith ac ar y ddinas y gelwir dy enw arni; nid oherwydd ein cyfiawnder ein hunain yr ydym yn ymbil o'th flaen, ond oherwydd dy aml drugareddau di.

19. Gwrando, O Arglwydd! Trugarha, O Arglwydd! Gwrando, O Arglwydd, a gweithreda! Er dy fwyn dy hun, fy Nuw, paid ag oedi, oherwydd dy enw di sydd ar dy ddinas ac ar dy bobl.”

20. A thra oeddwn yn llefaru ac yn gweddïo, yn cyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn ymbil o flaen yr ARGLWYDD fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw,

21. ehedodd y gŵr Gabriel, a welais eisoes yn y weledigaeth, a chyffyrddodd â mi ar adeg yr offrwm hwyrol.

22. Esboniodd i mi a dweud, “Daniel, rwyf wedi dod yn awr i'th hyfforddi.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 9