Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 6:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w dŷ. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gweddïo a thalu diolch i'w Dduw, yn ôl ei arfer.

11. Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw.

12. Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: “Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?” Atebodd y brenin, “Dyna'r gorchymyn, yn unol â chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid.”

13. Dywedasant hwythau wrth y brenin, “Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddïo deirgwaith y dydd.”

14. Pan glywodd y brenin hyn yr oedd yn drist iawn, a cheisiodd ffordd i achub Daniel, ac ymdrechu hyd fachlud haul i'w arbed.

15. Ond daeth y rhain gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, “Gwyddost, O frenin, fod pob gorchymyn a deddf o eiddo'r brenin yn ddigyfnewid yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid.”

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 6