Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 4:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf.

6. Gorchmynnais ddwyn ataf holl ddoethion Babilon i ddehongli fy mreuddwyd.

7. Pan ddaeth y dewiniaid, y swynwyr, y Caldeaid, a'r hudolwyr, adroddais y freuddwyd wrthynt, ond ni fedrent ei dehongli.

8. Yna daeth un arall ataf, sef Daniel, a elwir Beltesassar ar ôl fy nuw i, dyn yn llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd; ac adroddais fy mreuddwyd wrtho:

9. ‘Beltesassar fy mhrif ddewin, gwn fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ac nad oes dirgelwch sy'n rhy anodd i ti; gwrando ar y freuddwyd a welais, a mynega'i dehongliad.’

10. Dyma fy ngweledigaethau ar fy ngwely:Tra oeddwn yn edrych, gwelais goeden uchel iawn yng nghanol y ddaear.

11. Tyfodd y goeden yn fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion;yr oedd i'w gweld o bellteroedd byd.

12. Yr oedd ei dail yn brydferth a'i ffrwyth yn niferus,ac ymborth arni i bopeth byw.Oddi tani câi anifeiliaid loches,a thrigai adar yr awyr yn ei changhennau,a châi pob creadur byw fwyd ohoni.

13. “Tra oeddwn ar fy ngwely, yn edrych ar fy ngweledigaethau, gwelwn wyliwr sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd,

14. ac yn gweiddi'n uchel,‘Torrwch y goeden, llifiwch ei changhennau;tynnwch ei dail a gwasgarwch ei ffrwyth.Gwnewch i'r anifeiliaid ffoi o'i chysgod a'r adar o'i changhennau.

15. Ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear,a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes.Bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu,a bydd ei le gyda'r anifeiliaid sy'n pori'r ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 4