Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 4:27-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd â'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch.”

28. Digwyddodd hyn i gyd i'r Brenin Nebuchadnesar.

29. Ym mhen deuddeng mis, yr oedd y brenin yn cerdded ar do ei balas ym Mabilon,

30. ac meddai, “Onid hon yw Babilon fawr, a godais trwy rym fy nerth yn gartref i'r brenin ac er clod i'm mawrhydi?”

31. Cyn i'r brenin orffen siarad, daeth llais o'r nefoedd, “Dyma neges i ti, O Frenin Nebuchadnesar: Cymerwyd y frenhiniaeth oddi arnat.

32. Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid. Byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.”

33. Digwyddodd hyn ar unwaith i Nebuchadnesar. Cafodd ei yrru o ŵydd pobl; yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, ei wallt yn hir fel plu eryr, a'i ewinedd yn hir fel crafangau aderyn.

34. “Ymhen amser, codais i, Nebuchadnesar, fy llygaid i'r nefoedd, ac adferwyd fy synnwyr. Yna bendithiais y Goruchaf, a moli a mawrhau'r un sy'n byw yn dragywydd.Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol,a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

35. Nid yw neb o drigolion y ddaear yn cyfrif dim;y mae'n gwneud fel y mynno â llu'r nefoeddac â thrigolion y ddaear.Ni fedr neb ei atal, a gofyn iddo,‘Beth wyt yn ei wneud?’

36. Y pryd hwnnw adferwyd fy synnwyr a dychwelodd fy mawrhydi a'm clod, er gogoniant fy mrenhiniaeth. Daeth fy nghynghorwyr a'm tywysogion ataf. Cadarnhawyd fi yn fy nheyrnas, a rhoddwyd llawer mwy o rym i mi.

37. Ac yn awr yr wyf fi, Nebuchadnesar, yn moli, yn mawrhau ac yn clodfori Brenin y Nefoedd, sydd â'i weithredoedd yn gywir a'i ffyrdd yn gyfiawn, ac yn gallu darostwng y balch.”

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 4