Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 4:16-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Newidir y galon ddynol sydd ganddoa rhoir calon anifail iddo yn ei lle.Bydd hyn dros saith cyfnod.

17. Dedfryd y gwylwyr yw hyn,a dyma ddatganiad y rhai sanctaidd,er mwyn i bawb byw wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn, ac yn gosod yr isaf yn ben arnynt.’

18. “Dyma'r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar. Dywed tithau, Beltesassar, beth yw'r dehongliad, oherwydd ni fedr yr un o ddoethion fy nheyrnas ei dehongli imi, ond medri di, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot.”

19. Aeth Daniel, a enwyd Beltesassar, yn fud am funud, a'i feddwl mewn penbleth. Dywedodd y brenin, “Paid â gadael i'r freuddwyd a'r dehongliad dy boeni, Beltesassar.” Atebodd yntau, “Boed hon yn freuddwyd i'th gaseion, a'i dehongliad i'th elynion.

20. Y goeden a welaist yn tyfu'n fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion ac i'w gweld o bellteroedd byd,

21. a'i dail yn brydferth, a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth, a lloches i anifeiliaid oddi tani, a chartref i adar yr awyr yn ei changhennau—

22. ti, O frenin, yw'r goeden honno. Yr wyt wedi tyfu'n fawr a chryf, a'th fawredd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd i'r entrychion, a'th frenhiniaeth yn ymestyn i bellteroedd byd.

23. Fe welaist hefyd, O frenin, wyliwr sanctaidd yn dod i lawr ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden a difethwch hi, ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes; bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid, hyd nes i saith cyfnod fynd heibio.’

24. Dyma'r dehongliad, O frenin: Datganiad y Goruchaf ynglŷn â'm harglwydd frenin yw hwn.

25. Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid; byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd gwlith y nefoedd yn dy wlychu. Bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.

26. Am y gorchymyn i adael boncyff y pren a'i wraidd, bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog wedi iti ddeall mai'r nefoedd sy'n teyrnasu.

27. Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd â'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch.”

28. Digwyddodd hyn i gyd i'r Brenin Nebuchadnesar.

29. Ym mhen deuddeng mis, yr oedd y brenin yn cerdded ar do ei balas ym Mabilon,

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 4