Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 4:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Y Brenin Nebuchadnesar at yr holl bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd trwy'r byd i gyd. Bydded heddwch i chwi!

2. Dewisais ddadlennu'r arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y Duw Goruchaf â mi.

3. Mor fawr yw ei arwyddion ef,mor nerthol ei ryfeddodau!Y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol,a'i arglwyddiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

4. “Yr oeddwn i, Nebuchadnesar, yn mwynhau bywyd braf yn fy nhÅ· a moethusrwydd yn fy llys.

5. Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf.

6. Gorchmynnais ddwyn ataf holl ddoethion Babilon i ddehongli fy mreuddwyd.

7. Pan ddaeth y dewiniaid, y swynwyr, y Caldeaid, a'r hudolwyr, adroddais y freuddwyd wrthynt, ond ni fedrent ei dehongli.

8. Yna daeth un arall ataf, sef Daniel, a elwir Beltesassar ar ôl fy nuw i, dyn yn llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd; ac adroddais fy mreuddwyd wrtho:

9. ‘Beltesassar fy mhrif ddewin, gwn fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ac nad oes dirgelwch sy'n rhy anodd i ti; gwrando ar y freuddwyd a welais, a mynega'i dehongliad.’

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 4