29. Meddwl am y dyfodol yr oeddit ti, O frenin, yn dy wely; a mynegodd datguddiwr dirgelion iti beth sydd i ddod.
30. Ond rhoddwyd datguddiad o'r dirgelwch i mi, nid am fy mod yn ddoethach na neb arall, ond er mwyn mynegi'r dehongliad i'r brenin, a pheri iti ddeall dy feddyliau.
31. O frenin, delw fawr a welaist yn y weledigaeth, ac yr oedd yn sefyll o'th flaen yn fawr ac yn llachar, a'i golwg yn codi arswyd.
32. Yr oedd pen y ddelw yn aur coeth, ei bron a'i breichiau'n arian, ei bol a'i chluniau'n bres,
33. ei choesau'n haearn, a'i thraed yn gymysgedd o haearn a chlai.
34. Tra oeddit yn edrych, naddwyd carreg heb gymorth llaw; trawodd hon y ddelw yn ei thraed o haearn a chlai, a'u malurio.