Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Yr Amser Diwethaf

1. “Ac yn yr amser hwnnw cyfyd Mihangel, y tywysog mawr, sy'n gwarchod dros dy bobl; a bydd cyfnod blin na fu erioed ei fath er pan ffurfiwyd cenedl hyd yr amser hwnnw. Ond yn yr amser hwnnw gwaredir dy bobl, pob un yr ysgrifennwyd ei enw yn y llyfr.

2. Bydd llawer o'r rhai sy'n cysgu yn llwch y ddaear yn deffro, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i waradwydd a dirmyg tragwyddol.

3. Disgleiria'r deallus fel y ffurfafen, a'r rhai sydd wedi troi llawer at gyfiawnder, byddant fel y sêr yn oes oesoedd.

4. Ond amdanat ti, Daniel, cadw'r geiriau'n ddiogel, a selia'r llyfr hyd amser y diwedd. Bydd llawer yn rhedeg yma ac acw, a bydd gofid yn cynyddu.”

5. Yna edrychais i, Daniel, a gweld dau arall yn sefyll un bob ochr i'r afon.

6. A gofynnodd y naill i'r llall, sef y gŵr mewn gwisg liain a oedd uwchlaw dyfroedd yr afon, “Pa bryd y bydd terfyn ar y rhyfeddodau?”

7. Sylwais ar y gŵr mewn gwisg liain a oedd ar lan bellaf yr afon; cododd ei ddwy law i'r nef a thyngu, “Cyn wired â bod y Tragwyddol yn fyw, am gyfnod a chyfnodau a hanner cyfnod y bydd hyn, a daw'r cwbl i ben pan roddir terfyn ar ddiddymu nerth y bobl sanctaidd.”

8. Yr oeddwn yn clywed heb ddeall, a gofynnais, “F'arglwydd, beth a ddaw o hyn?”

9. Dywedodd yntau, “Dos, Daniel, oherwydd y mae'r geiriau wedi eu cadw'n ddiogel a'u selio hyd amser y diwedd.

10. Bydd llawer yn ymlanhau ac yn eu cannu eu hunain ac yn cael eu puro; bydd yr holl rai drygionus yn gwneud drwg heb ddeall, heb neb ond y deallus yn amgyffred.

11. Ac o'r amser y diddymir yr aberth beunyddiol, a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol, bydd mil dau gant naw deg o ddyddiau.

12. Gwyn ei fyd yr un fydd yn disgwyl ac yn cyrraedd y mil tri chant tri deg a phump o ddyddiau.

13. Dos dithau ymlaen hyd y diwedd; yna cei orffwys, a sefyll i dderbyn dy ran yn niwedd y dyddiau.”