6. Ymhen rhai blynyddoedd gwnânt gytundeb â'i gilydd, a daw merch brenin y de yn wraig i frenin y gogledd, i selio'r cytundeb; ond ni fydd ei dylanwad yn aros na'i hil yn para. Fe'i bradychir hi a'i gosgordd, a hefyd ei phlentyn a'r un a'i cynhaliodd.
7. Yna fe dyf blaguryn o'i gwraidd, a sefyll yn ei lle, a dod yn erbyn y fyddin i gaer brenin y gogledd, a llwyddo i'w threchu.
8. Bydd yn cludo ymaith i'r Aifft eu duwiau a'u heilunod a'u celfi gwerthfawr o arian ac aur.
9. Ni fydd ymosod ar frenin y gogledd am rai blynyddoedd, ond fe ddaw hwnnw yn erbyn teyrnas brenin y de, a dychwelyd i'w wlad ei hun.
10. “Bydd ei feibion yn ymbaratoi i ryfel ac yn casglu mintai gref o filwyr; ac fe ddaw un ohonynt a rhuthro ymlaen fel llif a rhyfela hyd at y gaer.
11. Yna bydd brenin y de yn ffyrnigo ac yn ymladd yn erbyn brenin y gogledd; bydd hwnnw'n arwain llu mawr, ond rhoddir y llu yn llaw ei elyn.
12. Pan orchfygir y llu, bydd yn ymfalchïo ac yn lladd myrddiynau, ond heb ennill buddugoliaeth.
13. Yna bydd brenin y gogledd yn codi llu arall, mwy na'r cyntaf, ac ymhen amser fe ddaw â byddin fawr ac adnoddau lawer.
14. Y pryd hwnnw bydd llawer yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de, a therfysgwyr o blith dy bobl di yn codi, ac felly'n cyflawni'r weledigaeth, ond methu a wnânt.
15. Yna daw brenin y gogledd a gwarchae ar ddinas gaerog a'i hennill. Ni fydd byddinoedd y de, na'r milwyr dewisol, yn medru ei wrthsefyll, am eu bod heb nerth.